Clwb Technoleg @ Tanio
Clwb Technoleg @ Tanio yw eich cyfle i ddod i adnabod yr offer yn Tanio Bermo yn well. Bydd slotiau un-i-un ar gael gyda thechnegydd i'ch cefnogi. Gallwch:
-
Gael cyflwyniad sylfaenol i'r peiriannau sydd gennym, dysgu beth all ei wneud (a beth na all!), gweithrediad sylfaenol a pha feddalwedd sydd ei hangen i'w yrru.
-
Dechrau prosiect newydd eich hun
-
Gweithio trwy rai o'n prosiectau cam wrth gam i ennill hyder
-
Parhau i weithio ar eich prosiect eich hun.
Yr offer sydd ar gael i'w ddefnyddio yw:
-
Argraffwyr 3D - a ddefnyddir i wneud gwrthrychau bach allan o blastig ar gyfer defnydd addurniadol neu swyddogaethol.
-
Torrwr laser / ysgythrwr - gwneud arwyddion, addurniadau, teclynnau hunan-gydosod o ddalennau tenau o bren neu acrylig.
-
Torrwr finyl / papur - gellir ei ddefnyddio i dorri papur a cherdyn yn gywir, torri finyl hunanlynol neu drosglwyddo gwres.
-
Gwasg gwres / gwasg mygiau - a ddefnyddir i drosglwyddo dyluniadau finyl neu inc ar grysau-T, bagiau, mygiau ac ati.
-
Peiriant gwnïo brodwaith - dyluniadau wedi'u teilwra neu lyfrgell ar gael i addurno neu bersonoli ffabrig. Gall hefyd wneud bathodynnau i'w gwnïo.
Codir tâl am ddeunyddiau a ddefnyddir yn ystod y sesiwn.
I ddechrau eich taith Tanio Tech, cofrestrwch ar gyfer sesiwn awr isod.
